Offerynnau Statudol gydag Adroddiadau Clir
23 Ionawr 2017
SL(5)047 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Radiograffydd Therapiwtig-Ragnodydd Annibynnol a Deietegydd-Ragnodydd Atodol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio amryw ddarnau o is-ddeddfwriaeth y GIG drwy:
ymestyn y diffiniad o ‘ragnodydd’ drwy fewnosod categori ychwanegol o ragnodydd annibynnol: radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol, ac
ymestyn y diffiniad o ‘ragnodydd atodol’ i gynnwys deietegwyr.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 drwy ymestyn yr esemptiad i’r gofyniad i godi tâl am fagiau siopa untro, fel bod yr esemptiad yn cynnwys cynhyrchion meddyginiaethol neu gyfarpar rhestredig a werthir yn unol â phresgripsiwn a ddyroddwyd gan radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol.
Deddf Wreiddiol: Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 [Saesneg yn unig] a Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 [Saesneg yn unig]
Fe’u gwnaed ar: 14 Rhagfyr 2016
Fe’u gosodwyd ar: 19 Rhagfyr 2016
Yn dod i rym ar: 28 Ionawr 2017
SL(5)048 - Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) (Diwygio) 2016
Gweithdrefn: Negyddol
Prif ddiben yr offeryn diwygio hwn yw mewnosod darpariaeth yn Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 (Rheoliadau 2012) i alluogi Gweinidogion Cymru i gytuno ar drefniadau gyda phersonau y tu allan i lywodraeth ar gyfer ymgymryd â mesurau swyddogol o dan oruchwyliaeth swyddogol. Mae gwelliannau pellach wedi’u cynnwys i gywiro mân hepgoriadau yn Rheoliadau 2012, egluro dosbarthiad lucerne a mewnosod y cyfnod amser ar gyfer cadw samplau o hadau at ddibenion gorfodaeth.
Deddf Wreiddiol: Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964 [Saesneg yn unig]
Fe’u gwnaed ar: 15 Rhagfyr 2016
Fe’u gosodwyd ar: 19 Rhagfyr 2016
Yn dod i rym ar: 11 Ionawr 2017